Lesley Gore | |
---|---|
Ffugenw | Lesley Gore |
Ganwyd | Lesley Sue Goldstein 2 Mai 1946 Brooklyn |
Bu farw | 16 Chwefror 2015 o canser yr ysgyfaint Manhattan |
Label recordio | Mercury Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Priod | Lois Sasson |
Cantores, cyfansoddwraig, actores ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Lesley Sue Gore (née Goldstein; 2 Mai 1946 – 16 Chwefror 2015). Pan oedd yn 16 oed yn 1963, recordiodd y gân bop "It's My Party," ac yna dilynwyd hyn gyda chaneuon llwyddiannus eraill megis "Judy's Turn to Cry" a "You Don't Own Me."
Gweithiodd Gore fel actores hefyd a chyfansoddodd ganeuon gyda'i brawd, Michael Gore, ar gyfer y ffilm Fame, pan gafodd ei henwebu am Wobr yr Academi. Bu'n weithgar tan 2014, a chyflwynodd rhaglen deledu LHDT, In the Life, ar deledu Americanaidd yn ystod y 2000au.